P-05-811 Rhoi'r gorau i ddefnyddio ardystiad gweithwyr ar brosiectau Llywodraeth Cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Paul Fear ac ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf yn ystod Mai 2018, ar ôl casglu 66 o lofnodion ar-lein.
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog
Llywodraeth Cymru i roi'r gorau i ddefnyddio a hyrwyddo ardystiad
gweithwyr ar gontractau Llywodraeth Cymru.
Mae ardystiad gweithiwr yn gynllun trwyddedu galwedigaethol wedi'i
breifateiddio.
1) Mae'n annemocrataidd ac yn amharu ar egwyddorion y gyfraith
gyffredin (hawliau tad-cu).
2) Mae'n rhoi cost hyfforddi a chymwysterau ar weithwyr, yn enwedig
gweithwyr hunangyflogedig a gweithwyr asiantaeth sydd heb fawr o
siawns o gael grantiau na chyllid.
3) Mae'n lleihau'r siawns o symud i fyny ar gyfer y tlotaf mewn
cymdeithas.
4) Mae'n atal symudedd gweithwyr, ar adeg pan mae angen gweithlu
hyblyg arnom.
5) Mae'n caniatáu i fuddiannau corfforaethol gael rheolaeth
dros weithlu cyfan ein sectorau economaidd, gan gynyddu costau
busnesau bach ac isgontractwyr.
6) Mae'n hyrwyddo ceisio rhent, sy'n golygu bod defnyddwyr yn talu
mwy am gynhyrchion a gwasanaethau.
7) Mae'n lleihau cynhyrchedd.
8) Mae'n doreithiog a bydd yn ymledu i bob sector economaidd.
9) Gall greu gwrthdaro o ran buddiannau.
10) Nid oes tystiolaeth bod ardystio gweithwyr yn gwella ansawdd na
safon crefftwaith.
11) Mae profiad, sgiliau a gwybodaeth yn lleihau risgiau iechyd a
diogelwch, a gellir cyflawni'r rhain a'u profi heb
gymwysterau.
12) Mae'n cynyddu cost prosiectau cyhoeddus.
I3) Os oes angen gofynion cymhwyster ar ddiwydiant, yna dylai ein
llywodraeth a etholwyd yn ddemocrataidd greu
deddfwriaeth.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Dwyrain Casnewydd
· Dwyrain De Cymru